Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Hydref 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro
(45 munud)
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(20 munud)
5 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â phryderon a morâl staff o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Meddygon??
6 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil perchnogaeth cyflogai
(30 munud)
NDM7722 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;
b) rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;
c) rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni cydweithredol i weithwyr;
d) sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.
Cefnogwyr
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Recriwtio athrawon
(60 munud)
NDM7811 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad athrawon a staff ysgolion ledled Cymru drwy gydol pandemig COVID-19.
2. Yn cydnabod bod athrawon yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail wrth i ni symud allan o'r pandemig a gweithredu cwricwlwm newydd.
3. Yn credu bod y ffaith bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn disgyn yn cael effaith andwyol ar allu dysgwyr i oresgyn effaith andwyol y pandemig ar eu haddysg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ar frys i hybu recriwtio athrawon, sy'n cynnwys:
a) gosod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf;
b) ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf bum mlynedd yn ysgolion Cymru;
c) sefydlu gwasanaeth cynghori ar addysg i Gymru i wella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i'r proffesiwn addysgu;
d) gwarantu o leiaf flwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro sydd newydd gymhwyso.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn mynegi ei diolchgarwch i’r gweithlu addysg cyfan am flaenoriaethu lles dysgwyr ac am ei ymrwymiad i weithredu’r cwricwlwm newydd er gwaethaf pwysau digynsail y pandemig.
3. Yn credu bod lles y gweithlu addysg o’r pwys mwyaf.
4. Yn cydnabod bod dysgu proffesiynol yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu brwd o ansawdd.
5. Yn condemnio penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac effaith hynny ar athrawon ar adeg o bwysau digynsail ar y gweithlu.
6. Yn croesawu:
a) y cynnydd o 40 y cant yn y ceisiadau ar gyfer cyrsiau athrawon y llynedd.
b) y cynnydd o 15.9 y cant yng nghyflogau athrawon newydd yng Nghymru ers 2019, a’r cynnydd o 1.75 y cant y gwnaeth Llywodraeth Cymru helpu i’w sicrhau yng nghyflog pob athro eleni er gwaethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus.
c) y ffaith bod cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi helpu i baru dros 400 o athrawon sydd newydd gymhwyso ag ysgolion.
d) y ffaith bod ffocws Cymru ar ddysgu proffesiynol ymhlith athrawon wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth eithriadol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill OECD, ac yn darparu sylfaen gadarn i wella dysgu proffesiynol mewn ysgolion.
e) y ffaith bod Cymru yn arwain y ffordd â chanllawiau fframwaith statudol ar gyfer ysgol gyfan, sydd wedi’u dylunio i gefnogi lles staff yn ogystal â dysgwyr.
Safbwyntiau Polisi Addysg OECD – Astudiaeth o Ddysgu Proffesiynol i Athrawon: Adroddiad Diagnostig i Gymru (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod nifer fawr o ffactorau'n dylanwadu ar y ffaith bod nifer yr athrawon yn gostwng, gan gynnwys llwyth gwaith, biwrocratiaeth ddiangen, materion staffio a phersonél, prosesau arolygu, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â chyllid a chyllidebu;
Yn credu ymhellach fod yn rhaid mynd i'r afael â materion recriwtio gan ddefnyddio dull gweithredu aml-elfen, gan ganolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau gwaith a chyfleoedd.
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7810 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: datblygu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021